Latest news
Croeso i newyddion diweddaraf Ysgol y Bannau
-
Cymro / Cymraes yr wythnos!
Wed 19 Feb 2025Llongyfarchiadau bawb!
-
Ethol capteiniaid llysoedd / Election of house captains
Fri 14 Feb 2025Bu’r plant wrthi yn ethol capteiniaid llys heddiw. Dyma’r plant sydd wedi cael eu hethol i Honddu, Tarell ac Wysg. Llongyfarchiadau mawr!
The children have been voting for house captains this afternoon. Here are the pupils who have been selected for Honddu, Tarell and Wysg. Llongyfarchiadau mawr!
-
Disgo distaw / Silent Disco
Fri 14 Feb 2025Diolch i Sinead o’r Urdd am ddod i’r ysgol i gynnal disgo distaw i ddathlu ‘Dydd Miwsig Cymru!’ Pawb wedi mwynhau gwrando a dawnsio i’r gerddoriaeth Cymraeg!
Thank you to Sinead from the Urdd for coming to school and holding a silent disco to celebrate ‘Dydd Miwsig Cymru’. Everyone enjoyed listening and dancing to the Welsh music!
-
Dathliadau y Llyfr Aur
Fri 14 Feb 2025Gwasanaeth y Llyfr Aur heddi. Llongyfarchiadau blant!
Llyfr Aur assembly. Llongyfarchiadau!
-
Posteri Gorymdaith Gwyl Ddewi Aberhonddu / Brecon St Davids Day posters
Wed 12 Feb 2025Llongyfarchiadau i'r tair yma ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth. Bydd y posteri yn cael eu rhannu yn y dref ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at weld pawb yn sgwar Bethel am 10.15 ar Fawrth 3ydd!
Congratulations to these three on their success in the competition. The posters will be distributed around town and on social media. We look forward to seeing everyone in Bethel Square at 10.15 on March the 3rd!
-
Cymro / Cymraes yr wythnos!
Wed 12 Feb 2025Llongyfarchiadau bawb!
-
Ar ol prysurdeb Tymor yr Hydref, cawsom y cyfle i ddathlu ein llwyddiannau yng nghwmni'r Welsh Whisperer! Cafodd y plant amser gwych yn canu a dawnsio gan wisgo eu denim, crysau siec a'u "fflat caps". Alovely way to end the busy Autumn Term - a brilliant concert by the Welsh Whisperer!
Fri 20 Dec 2024 -
Cafwyd ddau berfformiad ardderchog gan ein hysgol i ddathlu'r Nadolig. Teitl y sioe oedd "Pantolig!", gyda chymysgedd o stori Sinderela a Stori'r Geni. Roedd y perfformiadau'n wych, gyda pob un plentyn yn canu ac yn actio'n fendigedig. Am blant dawnus! We had two fantastic Christmas concerts this year. The show was called "Pantolig!", which was a combination of Cinderella and the Nativity. What talented children!
Tue 10 Dec 2024 -
Ar Dachwedd yr ugeinfed, dathlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant, diwrnod o weithredu a nodi mabwysiadau'r confensiwn ar Hawliau'r Plentyn. Cafwyd ddiwrnod llawn hwyl a oedd hefyd a neges pwysig. cawsom y cyfle i hyrwyddo a dathlu hawliau ein plant a fydd yn helpu i adeiladu byd gwell iddyn nhw. Diolch enfawr i Gyfeillion yr Ysgol a oedd wedi bod wrthi'n paratoi gweithgareddau hwylus ar gyfer yr ysgol. Daeth dwy ymarferwr lleol i arwain ar y diwrnod gyda gweiithgareddau meddylgarwch - symud, dawns a chelf. Bydd arddangosfa o'u gwaith i'w weld yn y theatr yn gynnar yn y flwyddyn.
Wed 20 Nov 2024 -
Diolch i Menter Brycheiniog a Maesyfed am drefnu diwrnod bywiog ac egniol iawn ar gyfer pob plentyn yn yr ysgol. Braf oedd croesawu Tudur Phillips - y clocsiwr o fri, i gynnal gweithdai clocsio gyda'n plant. Cafodd y plant hwyl wrth ymarfer eu symudiadau, neidio dros yr hanced boced a gwylio Tudur Phillips yn dangos ei gamp record y byd yn neidio'r gannwyll. Thank you to Menter Brycheiniog and Maesyfed for arranging a day full of activities with the record breaking Tudur Phillips.
Sun 10 Nov 2024