Latest news
Croeso i newyddion diweddaraf Ysgol y Bannau
-
Diolch i Rhian Davies am drefnu diwrnod llawn gweithgareddau chwaraeon gyda myfyrwyr Coleg Aberhonddu. Roedd y plant wrth eu boddau yn dysgu sgiliau newydd. rydym yn edrych ymlaen i wneud hyn eto! Thanks goes to Rhian Davies for arranging a day of sporting activities with the students at Brecon College. The children loved learning new skills.
Thu 31 Oct 2024 -
Cawsom llawer o hwyl wrth deithio yn ol i Gwm Rhyd y Rhosyn gyda Mr.Edward Morus Jones. Braf oedd gallu canu yr hen ffefrynau - megis "Het tri chornel", "Fuoch chi 'rioed yn morio?" a "Mam wnaeth got i mi". Diolch yn fawr am brynhawn hyfryd.
Wed 30 Oct 2024 -
Pleser oedd croesawu y Seren paralympaidd lleol, Rob Davies, i'r ysgol. Roedd y plant wrth eu boddau yn gwrando'n siarad am ei brofiadau, yn edrych ar ei fedal arian anhygoel ac yn gofyn cwestiynau di-ri iddo. Ysbrydoledig! It was a pleasure to greet our local celebrity Rob Davies to our school. The children enjoyed listening to him talk about his experiences, looking at his silver medal and asking many questions. Inspirational!
Wed 23 Oct 2024