Croeso / Welcome
Saif Ysgol y Bannau ar gyrion tref Aberhonddu ym Mhowys, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n gwasanaethu dalgylch eang drefol a gwledig o Aberhonddu hyd at y ffin gyda Lloegr. Lleolir yr ysgol gerllaw’r Ganolfan Hamdden gyda thir gwyrdd o’i chwmpas a golygfeydd hyfryd o’r Bannau a chefn gwlad Sir Frycheiniog.
Ar ôl ei dechreuad fel Uned o dan adain ysgolion cynradd eraill yn y dref, sefydlwyd Ysgol y Bannau fel ysgol ym 1982 pan apwyntiwyd Mr John Meurig Edwards yn bennaeth. Wrth i’r rhifau gynyddu’n gyson bu’n rhaid symud i safleoedd gwahanol o fewn y dref tan iddi ddod i adeilad newydd sbon ar y safle presennol ar Hydref 26ain, 1998. Mae’r adeilad wedi ei seilio ar gynllun diddorol a chreadigol ac mae’n dystiolaeth deilwng o dwf addysg Gymraeg a llwyddiant yr ysgol yn yr ardal. Yn 2007 agorwyd estyniad ar gyfer Addysg Cyn Ysgol.
Dynodir yr ysgol fel Ysgol Gynradd Gymraeg sydd yn darparu addysg gyfrwng Gymraeg ar gyfer plant o 5-11 oed. Rhoddir lle amlwg i’r Gymraeg yn nysgu a bywyd dydd i ddydd yr ysgol. Anogir y disgyblion i siarad Cymraeg yn yr ystafell ddosbarth ac hefyd y tu allan.
Ysgol y Bannau is situated on the outskirts of Brecon in Powys, within the Brecon Beacons National Park. It serves a wide urban and rural catchment area, from Brecon to the English border. Positioned near the Leisure Centre the school is surrounded by green fields and enjoys wonderful views of the Beacons and the Breconshire countryside.
After starting as a Welsh Unit within other primary schools in the town, Ysgol y Bannau was established as a school in 1982, when Mr John Meurig Edwards was appointed headteacher. A consistent rise in pupil numbers necessitated several moves to various sites in the town until the move to a brand new building on the present site on October 26th, 1998. The building is based on a creative and interesting design and is worthy testimony to the growth of Welsh-medium education and the success of the school in the area. In 2007, an extension was built for pre-school education.
The school is classified as a County Primary Welsh Medium School and caters for pupils from 5-11 years of age. The Welsh language plays a prominent part in the teaching and in the everyday life of the school. Pupils are encouraged to converse in Welsh both inside and outside the classroom.