Latest news
Croeso i newyddion diweddaraf Ysgol y Bannau
-
Ar Dachwedd yr ugeinfed, dathlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant, diwrnod o weithredu a nodi mabwysiadau'r confensiwn ar Hawliau'r Plentyn. Cafwyd ddiwrnod llawn hwyl a oedd hefyd a neges pwysig. cawsom y cyfle i hyrwyddo a dathlu hawliau ein plant a fydd yn helpu i adeiladu byd gwell iddyn nhw. Diolch enfawr i Gyfeillion yr Ysgol a oedd wedi bod wrthi'n paratoi gweithgareddau hwylus ar gyfer yr ysgol. Daeth dwy ymarferwr lleol i arwain ar y diwrnod gyda gweiithgareddau meddylgarwch - symud, dawns a chelf. Bydd arddangosfa o'u gwaith i'w weld yn y theatr yn gynnar yn y flwyddyn.
Wed 20 Nov 2024 -
Diolch i Menter Brycheiniog a Maesyfed am drefnu diwrnod bywiog ac egniol iawn ar gyfer pob plentyn yn yr ysgol. Braf oedd croesawu Tudur Phillips - y clocsiwr o fri, i gynnal gweithdai clocsio gyda'n plant. Cafodd y plant hwyl wrth ymarfer eu symudiadau, neidio dros yr hanced boced a gwylio Tudur Phillips yn dangos ei gamp record y byd yn neidio'r gannwyll. Thank you to Menter Brycheiniog and Maesyfed for arranging a day full of activities with the record breaking Tudur Phillips.
Sun 10 Nov 2024 -
Disgo Calan Gaeaf
Tue 05 Nov 2024 -
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth CogUrdd eleni.
Fri 01 Nov 2024