Latest news
Croeso i newyddion diweddaraf Ysgol y Bannau
-
Arweinwyr y cyngor ysgol / School council leaders
Sun 21 Sep 2025Llongyfarchiadau i arweinwyr newydd ein cyngor ysgol! Buodd plant blwyddyn 6 yn brysur yn ysgrifennu araith, cyn cyflwyno yr araith o flaen yr ysgol mewn gwasanaeth ysgol. Cafwyd pleidlais gudd a phob plentyn yn yr ysgol yn bwrw pleidlais. Llongyfarchiadau mawr, edrychwn ymlaen at weld beth bydd y cyngor ysgol yn trefnu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod!
—————————
Llongyfarchiadau to the new leaders of our school council! Year six have been busy writing speeches, which they presented to the pupils in a school assembly. We held a ballot where every child in school voted for their choice. Congratulations to them both, we look forward to seeing what the school council will organise over the coming year.
-
Siop ffrwyth y Bannau / School fruit shop
Sun 21 Sep 2025Mae blwyddyn 6 yn mwynhau rhedeg y siop ffrwyth eleni. Gwerthwyd dros 100 darn o ffrwyth yr wythnos diwethaf! Bargen am 25c! Mae’r plant wrth eu bodd yn dod i siopa ac yn dewis byrbryd iachus a blasus!
————————-
Year 6 pupils are enjoying running the fruit shop this year. They sold over 100 pieces of fruit last week! A bargain at 25 pence a piece! The children enjoy coming to the shop and choosing a healthy and tasty snack.