Latest news
Croeso i newyddion diweddaraf Ysgol y Bannau
-
Ennillwyr cystadleuaeth posteri / Poster competition winners
Thu 26 Feb 2026Llongyfarchiadau i’r disgyblion yma am greu posteri hyfryd yn hysbysebu Gorymdaith Gwyl Ddewi Aberhonddu, a fydd yn cael ei chynnal dydd Llun, Mawrth 2il am 10.15 o Sgwar Bethel.
Congratulations to these pupils for creating lovely posters advertising Brecon’s St David’s Day parade, which is being held on Monday, March 2nd at 10.15 from Bethel Square.
-
Siop ffrwyth
Tue 24 Feb 2026Mae blwyddyn 6 yn rhedeg siop ffrwyth bob amser chwarae bore. Mae darn o ffrwyth yn costio 25c.
Year 6 run a fruit shop each morning playtime. A piece of fruit costs 25p.
-
Clwb Lego a chlwb gemau bwrdd / Lego and board game club
Tue 24 Feb 2026Mae pawb yn mwynhau y clwb Lego a’r clwb gemau bwrdd.
Clwb Lego, pob dydd Llun am 1.00Clwb gemau bwrdd, pob dydd Gwener am 1:00
Everyone is enjoying our Lego and board game clubs!
Lego club, every Monday at 1:00Board game club, every Friday at 1:00
-
Ymweliad San Ffagan / St Fagan trip
Tue 24 Feb 2026Cafodd Bl 4, 5 a 6 amser wrth eu bodd yn Sain Ffagan yn ddiweddar yn dysgu am sut mae bywyd wedi newid dros amser fel rhan o’n gwaith thema ‘Mae’r rhod yn troi’.
Years 4, 5 and 6 had a lovely day at St Fagans recently learning about how buildings and life has changed over time as part of our theme work.
-
Cymro / Cymraes yr wythnos
Tue 24 Feb 2026Dyma luniau y plant sydd wedi derbyn clod yn ddiweddar!
Here are some photos of recent recipients of Cymro / Cymraes yr wythnos (Welsh speaker of the week)
-
Cymro / Cymraes yr wythnos!
Wed 01 Oct 2025Dyma y plant sydd wedi cael eu dewis yn Gymry yr wythnos dros yr wythnosau diwethaf! Da iawn chi!
Here are the children who have been selected as Cymro / Cymraes yr wythnos (Welsh speaker of the week) over the last few weeks. Da iawn chi!
-
Gweithdy cartwnio / Cartooning workshop
Wed 01 Oct 2025Cafodd blwyddyn 6 y cyfle i weithio ar prosiect y Siarter Iaith yr wythnos hon gyda chwmni CISP. Buon nhw wrthi yn braslunio lluniau i gyd fynd gyda chwedl lleol, llyn Cwm Llwch. Bydd angen i ni ddal ati i gwblhau y lluniau erbyn hanner tymor.
Year 6 were fortunate to work on a Siarter Iaith project this week with CISP multimedia. The children sketched and designed pictures to tell the story of a local lake, Cwm Llwch, which is at the bottom of Pen y Fan. They will need to continue to draw and complete their pictures by half term.
-
Arweinwyr y cyngor ysgol / School council leaders
Sun 21 Sep 2025Llongyfarchiadau i arweinwyr newydd ein cyngor ysgol! Buodd plant blwyddyn 6 yn brysur yn ysgrifennu araith, cyn cyflwyno yr araith o flaen yr ysgol mewn gwasanaeth ysgol. Cafwyd pleidlais gudd a phob plentyn yn yr ysgol yn bwrw pleidlais. Llongyfarchiadau mawr, edrychwn ymlaen at weld beth bydd y cyngor ysgol yn trefnu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod!
—————————
Llongyfarchiadau to the new leaders of our school council! Year six have been busy writing speeches, which they presented to the pupils in a school assembly. We held a ballot where every child in school voted for their choice. Congratulations to them both, we look forward to seeing what the school council will organise over the coming year.
-
Siop ffrwyth y Bannau / School fruit shop
Sun 21 Sep 2025Mae blwyddyn 6 yn mwynhau rhedeg y siop ffrwyth eleni. Gwerthwyd dros 100 darn o ffrwyth yr wythnos diwethaf! Bargen am 25c! Mae’r plant wrth eu bodd yn dod i siopa ac yn dewis byrbryd iachus a blasus!
————————-
Year 6 pupils are enjoying running the fruit shop this year. They sold over 100 pieces of fruit last week! A bargain at 25 pence a piece! The children enjoy coming to the shop and choosing a healthy and tasty snack.
-
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod
Wed 25 Jun 2025Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Marc Margam. Gwnaethoch chi yn wych! Rydym yn falch iawn ohonoch!
Congratulations to everyone who competed in the National Urdd Eisteddfod in Margam park. You did brilliantly! We are very proud of you all!