Sesiwn Llyfrgell gyda Sion Tomos Owen / Sion Tomos Owen library session
Cafodd Blwyddyn 6 brynhawn o hwyl yn y Gaer yn ddiweddar mewn sesiwn creu stori gyda Sion Tomos Owen, bardd plant Cymru. Roedd Sion yn llawn hwyl a bwrlwm, ac aeth y plant ati i greu cymeriad a dechrau creu storiau hwylus eu hunain. Diolch o galon i'r llyfrgell am drefnu y profiad hyfryd yma i ni yn y gymuned.
Year 6 had an afternoon of fun recently when they attended a story session with Sion Tomos Owen, the current Welsh poet Laureate. Sion was full of energy and fun, and the children enjoyed creating their own characters and starting to create their own exciting stories. Diolch yn fawr to the library service for arranging this session for us.